Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 25 Mawrth 2019
Amser:
13.20 -
15.30
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Christopher Munday, Llywodraeth Cymru |
Archwilydd Cyffredinol Cymru: |
Adrian Crompton - Swyddfa Archwilio Cymru Matthew Mortlock Mike Usher Deryck Evans |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC, Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Nid oedd dirprwyon.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Cafodd yr aelodau bapur briffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar warantau ac atebolrwydd amodol fel y'u cofnodwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru 2017-18.
4.1 Cafodd yr Aelodau eu briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Adroddiadau’r Archwilydd Cyffredinol ar Gynghorau Tref a Chymuned.
4.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch canfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru, a bydd hefyd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn rhoi gwybod iddynt am y papur trafod.
5.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr drafft a chytunwyd arno, yn amodol ar weld yr ohebiaeth a oedd yn codi pryder ynghylch cydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
6.1 Trafododd yr Aelodau y materion allweddol a godwyd drwy gydol yr ymchwiliad a chytuno ar feysydd i'w cynnwys yn Adroddiad y Pwyllgor.
7.1 Trafododd yr Aelodau’r meysydd yr oeddent am eu cynnwys yn y papur briffio ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill.
8.1 Trafododd yr Aelodau y meysydd yr oeddent am eu cynnwys yn y papur briffio ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill.
9.1 Trafododd yr Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr haf 2019 a chytunwyd arni.